P-04-610
Gwrthdroi’r
Toriadau i Gronfa Arian Wrth Gefn Prifysgolion
Mae’r gronfa galedi a roddir i Brifysgolion gan Lywodraeth
Cymru, sef y Gronfa Arian Wrth Gefn, wedi cael ei thorri ar gyfer
2014/15. Rydym yn credu bod hwn yn benderfyniad niweidiol ac rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r toriadau ar unwaith.
Roedd y gronfa ariannol hon yn darparu cymorth ariannol i filoedd o
fyfyrwyr oedd yn cael eu hunain mewn trafferthion ariannol yn ystod
y flwyddyn, y rheiny oedd heb unrhyw fodd arall o gynnal eu hunain.
Heb y gronfa hon, ni fydd myfyrwyr yn gallu fforddio astudio, gan
gadarnhau’r anghydraddoldeb cymdeithasol yn system addysg
Cymru. Mae’r cyhoeddiad fod y Gronfa i gael ei chwtogi hefyd
yn torri ymrwymiad a wnaed gan Aelodau’r Cynulliad i fyfyrwyr
yn 2011, lle bu iddynt arwyddo addewid i UCM Cymru na fyddent yn
cwtogi ar y Gronfa. Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, eisiau i
Lywodraeth Cymru wybod na fyddwn yn derbyn addewidion wedi eu torri
a chwtogi pellach ar ein system addysg.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pham fod UCM Cymru yn galw
am ail-gyflwyno’r gronfa arian wrth gefn, ewch i:
http://www.nusconnect.org.uk/news/article/ucmcymru/Myfyrwyr-yn-synnu-ar-doriad-Llywodraeth-Cymru-i-gronfa-argyfwng-prifysgolion/
Prif ddeisebydd:
NUS Wales
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
9 Rhagfyr 2014
Nifer y llofnodion: 134